Cyrsiau a Thiwtoriaid

Tiwtoriaid

• Euros Wyn Jones
• David Ollerton
• Watcyn James
• Meirion Morris
• Stuart Olyott
• Eifion Evans

1. Arolwg o’r Beibl/Dehongli’r Beibl

Nod – Ail-adrodd y ‘stori Feiblaidd’ o Genesis i Ddatguddiad, ei ddarllen a’i ddehongli.
Amcanion – Ar ddiwedd yr uned fe ddylai’r myfyrwyr fedru:

• darllen y stori Feiblaidd
• dehongli’r Beibl ar gyfer eu cyd-destun
• gweld sut y mae’r Beibl yn ateb cwestiynau sylfaenol am hanfod ein bod
• cymhwyso’r Beibl mewn ‘gweinidogaethau’ amrywiol

2. Cyflwyniad i hanes yr Eglwys
Nod – Cael trosolwg o hanes yr Eglwys, gan sylwi ar y prif ddatblygiadau hyd y cyfnod diweddar.
Amcanion – Ar ddiwedd yr uned fe ddylai’r myfyrwyr fedru:

• olrhain datblygiad yr Eglwys o’r cyfnod Patristaidd i Gristnogaeth yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif
• adnabod y traddodiadau gwahanol yn y Gorllewin a’r Dwyrain
• olrhain gwreiddiau a datblygiad y Diwygiad Protestannaidd
• deall twf Anghydffurfiaeth o gyfnod y Piwritaniaid, a dylanwad y Diwygiad Efengylaidd
• olrhain y rhesymau dros leihad dylanwad Anghydffurfiaeth yn yr ugeinfed ganrif

3.Cyflwyniad i Athrawiaeth ac Athroniaeth
Nod – Deall prif sylfeini athronyddol ac athrawiaethol ein cyd-destun cyfoes.
Amcanion – Ar ddiwedd yr uned fe ddylai’r myfyrwyr fedru:

• deall gwreiddiau Beiblaidd yr athrawiaeth am Dduw, Iesu, Yr Ysbryd Glân, Iachawdwriaeth, Sacramentau, ac Eschatoleg
• olrhain yr athrawiaeth am Dduw, Iesu, Yr Ysbryd Glân, Iachawdwriaeth, Sacramentau, ac Eschatoleg mewn hanes
• adnabod prif ladmeryddion safbwyntiau athronyddol y ganrif ddiwethaf
• deall cyd-destun athronyddol y meddwl modernaidd ac ôl-fodernaidd
• cymhwyso athrawiaeth Gristnogol i gyd-destun cyfoes Gweinidogaeth

4. Pregethu ac arwain addoliad
Nod – Deall pwyslais y Beibl ar gyhoeddi’r Gair, ac ar arweinwyr fel ‘gweision y gair’, gan ystyried ffurfiau, dulliau ac adnoddau angenrheidiol personol.
Amcanion – Ar ddiwedd yr uned fe ddylai myfyrwyr fedru:

• olrhain dysgeidiaeth yr Hen Destament ar ‘gyhoeddi Gair yr Arglwydd’
• olrhain dysgeidiaeth y Testament Newydd ar y tyst fel gwas y Gair
• adnabod prif ffurfiau addoliad yn Ysgrythurol ac mewn hanes
• adnabod dulliau gwahanol o addoli yn y traddodiad Cristnogol
• datblygu gallu a doniau i gyhoeddi ac arwain yn effeithiol

5. Galwad
Nod – Deall arwyddocâd ‘galwad’ yn yr Ysgrythurau, ym mywydau arweinwyr Cristnogol ac yn y bywyd personol.
Amcanion – Ar ddiwedd yr uned fe ddylai’r myfyrwyr fedru:

• olrhain ‘galwad’ yn y testunau Beiblaidd
• adnabod pwy mae Duw yn galw
• deall y profiad o alwad yn hanes unigolion mewn hanes
• adnabod breintiau a pheryglon y galwad i weinidogaeth

6. ‘Gwneud’ Arweinydd
Nod – Archwilio hanfodion arweinyddiaeth yn nhermau datblygiad personol, galwad, cymeriad a hygrededd.
Amcanion – Ar ddiwedd y cwrs dylai’r disgyblion fod yn:

• datblygu bywyd defosiynol disgybledig
• meddu ar berthynas dda gyda Duw a phobl yn eu bywyd o ddydd i ddydd
• meddu ar ddealltwriaeth dda o berthynas mewn tîm, a pherthynas ag awdurdod
• meddu ar agwedd bositif at wasanaeth ac aberth angenrheidiol
• meddu ar gynlluniau a nodau sydd wedi eu diffinio, gyda golwg ar eu dyfodol

7. Gofalu Cristnogol
Nod – I ddeall pwysigrwydd ‘gofal’ fel cysyniad Beiblaidd, gan ddangos y pwysigrwydd o sefyll gyda, o ddwyn gobaith ac anogaeth, ac o gynnig persbectif newydd.
Amcanion – Ar ddiwedd yr uned fe ddylai’r myfyrwyr fedru:

• fod yn unigolion ‘gofalus’
• adnabod perthynas gynyddol gyda Duw
• deall hanfodion ‘gofal’ Cristnogol Beiblaidd
• fedru datblygu sgiliau a dealltwriaeth newydd o anghenion personol ac anghenion eraill