Y Rhaglen

Blwyddyn Sylfaen

1. Tri thymor o ddeuddeng wythnos, gan roi cyfle i bawb gael toriad clir rhyngddynt.

2. Wythnos yn ystod y tymor cyntaf a’r trydydd tymor i fynd ar leoliadau i arsylwi.

3. Chwe wythnos yn ystod yr ail dymor i fynd ar leoliadau fesul parau, i eglwysi Cymraeg.

4. Trefnu sesiynau gweinidogaethu ac ymweliadau fesul parau pob amser er mwyn meithrin gweithio fel tîm.

5. Bydd gweddill y cyfnod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y canlynol:

a. Amser gweinidogaeth
b. Amser dosbarth
c. Cyfnod astudio personol
ch. Amser mentora
d. Amser rhydd

6. Cael siaradwr gwadd unwaith y mis, neu ymweld â chyfarfod rhywle arall er mwyn rhannu gweledigaeth.

Blwyddyn Gweinidogaeth

1. Fel yr uchod – 1, 2, 4 a 6

2. Dylai’r myfyrwyr yma fod hanner-amser ar leoliad mewn eglwys a hanner-amser yn astudio. Gall eu lleoliad mewn eglwys fod yn ‘eglwys leol’ am y flwyddyn.

Cymwysterau Mynediad
Er mwyn sicrhau mynediad i gynllun DAWN bydd yn angenrheidiol i’r Bwrdd Rheoli gael gwybodaeth am y canlynol:

• Eich Galwad Personol i weinidogaeth, neu eich awydd clir i ddarganfod y galwad hwnnw.
• Yr Eglwys sydd yn eich cymeradwyo/anfon/ cefnogi
• Eich Cymwysterau Academaidd
• Eich Profiad o weithio neu weinidogaethu o fewn Eglwys neu Fudiad Cristnogol arall.