Y Weledigaeth

MEIRION7.JPGYr ydym yn byw mewn dyddiau o gyfle a her i’r Eglwys. Mewn oes sy’n brysur cael ei nodweddu gan y byd-olwg ôl-fodernaidd gyda’r pwyslais ar y goddrychol ar draul y gwrthrychol, gwelwn effaith hyn nid yn unig yn y byd o’n cwmpas, ond ar feddyliau Cristnogion hefyd. Os oedd her Moderniaeth yn un y bu raid i’n tadau wynebu gyda hyder, felly hefyd gwelwn yr her yma i ni.

Yr ydym yn diolch i Dduw am y bobl hynny aeth i’r afael â dysgu a hyfforddi cenedlaethau o bobl ifanc a rhai hŷn i weithio ac i arwain mewn llu o wahanol eglwysi a chenadaethau eraill. Bellach, gwelwn fod y ffyrdd a arferai ddenu unigolion i gymryd hyfforddiant yn edwino, ac yn hynny y cyfle i ddarganfod cyfleon newydd.

Un o’r ffyrdd hyn yw hyfforddiant sydd wedi ei lunio ar sail prentisiaeth, lle y gwneir ymdrech i arfogi’r myfyrwyr yn ddiwinyddol ac yn bersonol o fewn cyd-destun lle mae’r profiadau o arwain mewn sefyllfaoedd real yn chwarae rhan ganolog. Mae DAWN Cymru yn ceisio cyflawni hyn o fewn y Gymru Gymraeg er mwyn diogelu arweinwyr newydd i weithgarwch newydd yn ein gwlad. Gall y gweithgarwch hwn amrywio o arwain Eglwysi newydd, plannu mewn eglwys sy’n bod yn barod, trawsffurfio eglwys, neu cymryd rôl arweinydd o fewn i dîm gweinidogaeth.

Ni pherthyn i’r cylch yn Llansannan unrhyw arbenigedd neilltuol i wneud y gwaith, a gwnawn hynny oherwydd fod Duw yn ei ragluniaeth wedi gosod hyn ar ein calon. Yr hyn a fedrwn gynnig yw llu o brofiadau ymarferol amrywiol yn lleol, a chyflon y tu hwnt i ffiniau’r ardal i weld a phrofi yr hyn mae Duw yn ei gyflawni yn ein dydd.

Dros y blynyddoedd diwethaf gwelodd Duw yn dda i godi pobl o’r newydd i’w adnabod yn ein plith, ac ar yr un pryd, dod â ni i berthynas â llu o arweinwyr a gweithwyr sydd fel ninnau yn gweld y gwaith hwn fel gwaith y dylem fod ynglŷn ag ef. Gwnawn hynny’n ostyngedig, gan wybod, er maint yr angen, mai adeiladu yn ofer a wnawn ni ohonom ein hunain. Ein hyder yw y bydd Duw yn bendithio, ac yn galw ar genhedlaeth newydd i ddiogelu tystiolaeth i efengyl anghyfnewidiol mewn dyddiau sydd beunydd yn newid.

Meirion Morris

Eglwysi Bro Aled

Lleolir DAWN o fewn i ofalaeth bresennol y Parch Meirion Morris, gofalaeth gyd-enwadol sydd wedi ei chanoli ar bentref gwledig Llansannan ar y ffin rhwng Dyffryn Clwyd a Mynydd Hiraethog. Perthyn pum cynulleidfa i’r ofalaeth, yn ymestyn o Gefnberain a Llannefydd i Lanfairtalhaearn a Llansannan at Tanyfron. (Perthyn i’r gynulleidfa yn Llansannan ddwy eglwys, Capel Coffa Henry Rees EBC a Capel Coffa Gwilym Hiraethog UAC.) Fel y gwelir o’r enwau hyn, mae yna draddodiad cyfoethog i’r ardal, a diolchwn i Dduw am ei waith ym mywydau y genhedlaeth a fu.

Bu’r Gweinidog yma bellach ers bron i ddeunaw mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu cryn weithgarwch, ond yn bwysicach, fe welodd Duw yn dda i fendithio’r gwaith. Mae yna genhedlaeth dda o bobl sydd wedi aeddfedu a thyfu ac sy’n ymroi mewn gweddi a gwaith, ac rydym hefyd yn llawenhau yn y bobl hynny sydd wedi symud atom i addoli, a’r bobl hynny sydd wedi dod yn Gristnogion yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn. Er hyn oll, pery y cynulleidfaoedd yn rhai cymysg iawn, a mawrygwn y fraint o gael cyflwyno golud yr efengyl iddynt mewn amryw o ffyrdd ac amryw o gyfarfodydd.

Mae’r ofalaeth yn cael ei harwain gan dîm o bobl, ac i bob un eu rhan yn y gwaith o arwain addoliad, gweithgarwch plant/ieuenctid, oedolion, astudiaethau Beiblaidd / grwpiau tai, cyfarfodydd gweddi, cyfarfodydd achlysurol eraill, paratoi deunydd, gweinidogaeth gofal, gwasanaeth a.y.b.. Drwy’r cyfan, yr ydym yn ceisio ufuddhau i alwad Duw ar fywydau pawb yn ôl eu dawn, gan edrych i Arglwydd y Cynhaeaf fendithio Ei waith, a dyrchafu Iesu yn ein plith.