Mae’r Bwrdd Rheoli bellach wedi cyfarfod ddwywaith ers i Gynllun DAWN gychwyn. Y bwriad yn y dyfodol yw i barhau â’r drefn yma, sef i gyfarfod fel Bwrdd Rheoli ddwywaith y flwyddyn, unwaith yn Nhymor y Gwanwyn ac eto yn Nhymor yr Hydref. Y Bwrdd Rheoli sy’n gyfrifol dros holl weithgarwch a chyfeiriad y Cynllun, gan ddarparu goruchwyliaeth ac atebolrwydd i’r mudiadau/enwadau sy’n cefnogi. Ar yr un pryd byddwn wedi ffurfio Cyngor o 6 aelod a fydd yn cyfarfod oddeutu unwaith bob 6 wythnos. Gwaith y Cyngor yw trafod a gweinyddu rhediad dydd i ddydd y Cynllun.
Aelodau presennol y Cyngor:
• David Ollerton Cymru Gyfan/Wales Wide
• Sarah Morris Gofalaeth Aled (plant/ieuenctid)
• Meirion Morris Rheolydd
• Mair Owen Trysorydd
• Manon Evans Gweinyddydd
Aelodau presennol y Bwrdd Rheoli a’r mudiad/enwad y maent yn ei gynrychioli:
• David Ollerton Cymru Gyfan/Wales Wide
• Dilys Hughes Henaduriaeth Dyffryn Clwyd
• Mary Williams Gofalaeth Aled (Blaenoriaid)
• Sarah Morris Gofalaeth Aled (plant/ieuenctid)
• Ben Nuss Gofalaeth Aled (oedolion ifanc)
• Meryl Walters ‘Souled Out’
• Euros Wyn Jones Hyfforddiant (UAC)
• Aneurin Owen Cadeirydd
• Meirion Morris Rheolydd
• Mair Owen Trysorydd
• Manon Evans Gweinyddydd